top of page
  • Instagram
  • Facebook
  • Twitter
  • Spotify
GwilymBowenRhys_HeleddWynHardy1.JPG

"One of these islands' best, in any language" - Mark Radcliffe, BBC Radio 2

 

“Cerddor sy’n prysur fynd yn drysor cenedlaethol” – Tudur Huws Jones, Y Cymro

Mae Gwilym Bowen Rhys wedi sefydlu ei hun fel llysgennad teilwng dros y Gymraeg a chanu, gartref yng Nghymru ac ar draws y byd hefyd. Cafodd hyn ei gadarnhau gan ei enwebiad ar gyfer Gwobr Canwr Gwerin y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 a thrwy ennill Gwobr yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru.

​

o bentref Bethel ar odre'r Wyddfa yn wreiddiol, mae Gwilym wedi bod yn canu yn Gymraeg ers iddo allu cofio.

​Mae ei gerddoriaeth yn cyfuno hen eiriau ac alawon o'r traddodiad Cymreig gyda´i arddull gyfoes ac amrwd ei hun.

Rhyddhawyd ei albwm cyntaf ‘O Groth y Ddaear’ yn 2016 a chyrhaeddodd restr fer Albwm Gorau’r Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

​

Rhyddhawyd ei bumed albym - Aden, yn 2025.

bottom of page