top of page
Hogyn Gyrru’r Wedd / The Ploughboy
Alaw/Melody - 'Ye Sons of Albion' (Tradd./Trad.)
Geiriau/Words - Richard Davies 'Mynyddog' (1833-1877)

Yr haul ymsudda dros y bryn
I’r eigion fel rhyw gawr
Pan gura hogyn gwelw syn
Ar ddrws amaethdy mawr.
Gofynai hwn o dan ei bwn
A’i fochau’n llwyd eu gwedd;
“ble gallai gael rhyw gyflog gwael
Yn hogyn gyrru’r wedd?
Yn hogyn gyrru’r wedd?”

“Mae saith ohonom gyda mam
A ‘nhad mewn beddrod llaith
A gwaeth na hyn, y fi fy hun
Yw’r hynaf un o’r saith,
Mi wnaf fy rhan er lleied wyf
A llwyted yw fy ngwedd,
Os gallai gael rhyw gyflog gwael
Yn hogyn gyrru’r wedd,
Yn hogyn gyrru’r wedd.”

“Os nad oes arnoch eisiau’m gwaith
A gaf fi gennych chi
Rhyw gysgod hyd y noson laith
Rhag oerni’r gaeaf du.
‘Rol noson faith mi chwiliaf am waith
Er mwyn cael gwella’m gwedd,
Os gallai gael rhyw gyflog gwael
Yn hogyn gyrru’r wedd
Yn hogyn gyrru’r wedd.”

Wel d’weda gwraig y tÅ· mewn serch;
“cymerwch ef, da chi!”
“O ie ‘nhad!” atebai’r ferch
A’i dagrau’n treiglo’n lli.
“Mai’n g’wilydd mawr bod neb yn awr
Yn crwydro’n llwyd eu gwedd,
Os gall ef gael rhyw gyflog gwael
Yn hogyn gyrru’r wedd,
Yn hogyn gyrru’r wedd.”

Y tad a’r fam aeth cyn bo hir
I fynwent Tan-y-Graig,
A’r tyddyn ddaeth yn eiddio i’r llanc
A’r ferch ddaeth iddo’n wraig.
Ar aelwyd lân mae’n canu cân
Yn siriol iawn ei wedd,
Wrth gofio pryd y daeth i’r tÅ·
Yn hogyn gyrru’r wedd,
Yn hogyn gyrru’r wedd.

The sun it sinks over the hill
into the depths like some giant
When a frightful pale boy knocks
on the door of a big farmhouse.
He asks from ‘neath his sack
With his cheeks all grey;
“where can I earn a little poor wage
As a ploughboy?
As a ploughboy?”

“There’s seven of us with my mother
And my father’s in a damp grave
And worse than this, me myself
Is the eldest of all seven,
I’ll do my part, despite my small size
And despite how grey my cheeks are,
If I can only earn a little poor wage
As a ploughboy,
As a ploughboy.”

“If my help is not needed
May I have from you
Some shelter through the wet night
From the cold of the black winter.
After a long night I’ll look for work
So that my cheeks can be restored,
If I can only earn a little poor wage
As a ploughboy
As a ploughboy”

Well the wife of the house lovingly said;
“Take him for goodness sake!”
“ Yes father!” says the daughter
With her tears flowing down.
“It’s a pity that there’s anyone now
Still wandering with grey cheeks”
If he could only earn a little poor wage
As a ploughboy,
As a ploughboy.

The father and mother went before long
To Tan-y-Graig cemetery,
And the house became property of the lad
And the daughter became his wife.
In a pure home he sings a song
With gentle and healthy cheeks,
Remembering the day he came to the house
As a ploughboy
As a Ploughboy.

 

bottom of page