CANWR GWERIN CYMRAEG
WELSH FOLK SINGER
Clychau'r Gog / Blue Bells
Cerddoriaeth a geiriau / Music and lyrics - GBRh
Trefniant / Arrangement - GBRh, AWH, DRhH
Roedd yr haul yn taeru 'i bod hi'n Haf
a'r llwybr gwyrddlas yn ein gwadd,
ac fe glywsom glychau mwynion Mai
yn galw arna ni‘n dau.
Mi roedd hi yn wanwyn oll i gyd
a'i sgwrs yn hyfryd gân ddi-hid,
a ches deimlad fel na ches i 'rioed
fel tân yn rhuo dan ‘yng nghroen.
Yn dân o fy mhen i 'nrhaed
a'i gwên yn cyflymu'r gwaed
ar fin y môr o glychau'r gog.
Cuddio'r gwir mewn hanner gwên
a'n yssu am ei choflaid glen,
cuddio serch mewn geiriau gwawd,
a 'mywyd rhwng ei bys a'i bawd.
A phob amheuaeth 'di hen ffoi
a'r ysfa'n ffrwd, yn brwd gyffroi
i nofio'r môr o glychau'r gog.
Doedd neb yn glust na'n dyst ond dail,
doedd neb yn llygad ond yr haul,
neb mond hi a fi yn fud,
yr unig bobol yn y byd.
A dyma blymio'n ddwfn i'r don,
un ennyd barodd flwyddyn gron,
i eigion môr o glychau'r gog.
Breuddwyd ofer, gobaith ffol
oedd cael aros yn ei chol,
ac fe glywaf glychau mwynion Mai
yn canu'n iach i ni’n dau.
Ond mi gadwai hon yng nghell fy mron;
yr ennyd barodd flwyddyn gron,
ac fe gofia i tra meddaf cof
ei dal mewn môr o glychau'r gog
The sun was insisting that it was Summer,
and the blue-green path was inviting us,
and we heard the gentle bells of May
calling to us both.
She was the very essence of Spring,
and her conversation was a lovely, careless song.
And a feeling came over me, the like I’d never felt before,
like a fire under my skin.
A fire from my head to my feet,
her smile quickening the blood,
on the edge of the sea of blue bells.
Concealing the truth behind half a smile,
and longing for her tender embrace.
Concealing love behind sarcastic words,
and my life between her finger and thumb.
Every doubt had long since fled,
and the yearning was a rushing torrent,
to swim the sea of blue bells.
No one was an ear nor a witness, only leaves,
no one was an eye, except for the sun,
no one there but her and me;
the only people in the world.
And then we plunged deep into the wave;
one moment that lasted a whole year,
into the depths of a sea of blue bells.
To stay in her embrace was to prove a false hope,
a dream in vain.
And I hear the gentle bells of May
sighing a farewell to us both.
But I’ll keep this safe in the chamber of my heart:
the moment that lasted a whole year,
and I’ll remember this as long as I possess a memory;
holding her in a sea of blue bells.