top of page
Llofruddiaeth Hannah Dafis / The Murder of Hannah Davies
Alaw/Melody – ‘Bryniau’r Werddon’ - Tradd./Trad.
Geiriau/Words – Stephen Jones, Llanfaeryw/Cilcennin, Ceredigion.
 

Trigolion sir Gaerfyrddin ac Aberteifi wiw
a phawb o’r Cymry mwynion sy’n rhodio tir y byw -
gwrandewch ar hyn o hanes, truenus i’w goffâu,
sy’n rybydd mawr i’r i’enctyd ac hefyd i bob rhai.

Roedd merch ym mhlwy’ Pencarreg yn swydd Gaerfyrddin fawr
a’i henw – Hanna Dafis, boed hysbys i chi nawr,
a honno mewn gasanaeth yn barchus iawn yn bod
yn caru â mab ieuanc o gwmpas ugain oed.

Ond prifio wnaeth yn feichiog, fel llawer gyda hi,
a thraethu wnaeth i’w chariad – ‘yn feichiog yr wyf fi’,
a gofyn wnaeth i’w meistres a gai hi ganiatâd
i fynd tua thre ‘da’i chariad i weld ei mam a’i thad.

Ac yno fore trannoeth rhyw ffermwr ddaeth yn fwyn
i edrych am ei ddâoedd, ei ddefaid oll a’i ŵyn.
Canfyddai gorff yn gorwedd yn farwol ar y maes
a’r gwaed ymhell o amgylch yn lliwio’r borfa las.

Ei gwddf oedd wedi’i dorri, mae digon nawr o dyst,
echrydus ydyw adrodd, yn groes o glust i glust,
a’r gwaed sydd yno heddiw i’w weld yn lwybr du
yn gweiddi’n groch am ddial am ddwyn ei bywyd cu.

Dychmygwch nawr ei chlywed yn ymbil arno’n gry’ -
‘gadewch er mwyn yr arglwydd fy mywyd bach i mi,
mi’ch cerais i chi’n annwyl, gwnes popeth er eich mwyn,
pa fodd y gall eich calon fy mywyd bach i ddwyn?’.

Ond yntau’n filain gwaedlyd, heb wrando’r eneth wen,
a holltai’r gên â’r bilwg a thorrai ffwrdd ei phen.
Ni welodd neb ‘fath laddfa, fath olwg ar gorff dyn
nac unrhyw ddynes hefyd fel tystiant nawr bob un.

A'r bachgen hwn sydd heddiw o fewn y carchar du
yn gwaeddi ‘gwae (os euog) erioed fy ngeni i’
a’i enw – Dafydd Ifans o dylwyth parchus iawn,
y rhai sydd bron gwallgofi foreuddydd a phrynhawn.

Boed hyn o dro yn rybydd i bawb o’r i’enctyd gwiw
i ‘mwrthod â’r fath bechod a gweddïo mwy ar Dduw
am nerth i rodio’r llwybrau sy’n tywys tua’r nen
fel byddont gyda’r Iesu mewn mwyniant byth, amen.

Inhabitants of Carmarthenshire and fine Cardiganshire
and all the gentle Welsh people that roam the land of the living,
listen to this story, a harrowing one to recall
that’s a great warning to the youth and all the rest as well.

There was a girl of Pencarreg parish, in the extensive shire of Carmarthen
and her name – Hannah Davies, be it known to you now,
and herself being employed, very respectfully so,
and courting with a young lad around twenty years of age.

But she fell pregnant, like many in her state,
and she declared to her lover ‘I’m expecting’,
and she asked her mistress if she could beg leave
to go home with her partner to see her mother and father.

And there the following morning, a farmer came by nobly
to look for his livestock; his sheep and his lambs.
He came across a body lying dead on the ground,
the blood spread far around, staining the green grass.

Her neck had been cut, there are witnesses to this,
terrible it is to tell, across from ear to ear,
and the blood is there today, to be seen as a black path,
crying out harshly for vengeance for stealing her beautiful life.

Imagine hearing her now begging in earnest
‘in the lord’s name, spare me my little life,
I loved you dearly, I did everything for you,
How can your heart steal my little life away?’

But himself, bloody and malicious, not heeding the pure girl,
split her chin with his bill-hook and cut off her head.
Nobody did see such a killing, such a state on a man’s body
or a woman’s either, so they do now attest.

And today this lad is in the black prison
crying ‘woe to me (If I am guilty) for ever being born’,
and his name – Dafydd Evans, from a very respectful family,
they who are almost going mad morning and evening.

May this be a warning to all the good youth
to renounce such sin, and to pray more unto God
for strength to walk the paths that lead to heaven
so that they can be with Jesus in everlasting joy, amen.

bottom of page