top of page
Gwen Lliw'r Lili / Gwen the Colour of the Lily
Alaw/Melody - Tradd/Trad
Geiriau/Words - Pennill 1af/1st verse - Tradd/Trad
                               2il bennill/2nd verse - Iolo Morgannwg (1747-1826)
                               3ydd pennill/3rd verse - GBRhys
​

Dydd da fo i Wen lliw’r lili,

Mi’th welais heddiw’n wisgi

Yr orau rwy’n ei charu

O ferched yr holl fyd

Pa le mae’r addewidion

A’r cariad gynt fu rhyngom?

Mynega im, liw’r hinon,

Fy seren teg ei phryd

 

Mae’r gog yn bêr leferydd

A’i miwsig yn y maesydd

A gwenu y mae’r gweunydd

Dan dywydd hirddydd haf

A’r gerdd yng nghaerau gwyrddion

A’r tir gan fwyeilch tirion

Llawenydd, pynciau llawnion,

Y dôn hyfrydlon braf

 

Felly loyw Wen lliw’r lili

Tyrd ataf eto i garu

Cyn i ‘nghalon dirion dorri

Yn deilchion yn dy law,

Mae’th swnol lais yn treiddio

Mor ddedwydd i ‘mreuddwydion

O rho i mi, liw’r hinon,

Dy gariad di-ben-draw.

Good day to you Gwen the colour of the lily

I saw your nimble person today,

The one I love best

Out of all the girls in the world,

Where are the promises and love

That once were between us

Tell to me, the colour of sunshine,

My fair faced star 

​

The cuckoo’s purely calling

And it’s music fills the fields

And all the moors are smiling

For it being a long summer day

Music fills the green strongholds

And the land’s filled with gentle blackbirds,

Their jollity and full bodied verses

And their lovely delightful tune.

 

So, bright Gwen the colour of the lily

Come back to me so I might court you,

Before my gentle heart breaks

To pieces in your hand,

Your sweet voice infiltrates

So beautifully into my dreams

Oh, give to me, the colour of sunshine,

Your ever-lasting love.

bottom of page