CANWR GWERIN CYMRAEG
WELSH FOLK SINGER
Owain Lawgoch / Owain Red Hand
Alaw & Geiriau / Melody & Words - GBRh
Aeth saith canrif heibio ers ‘ti ddyfod i’r byd
A’th dynged oedd ei deithio ei led ac ei hyd
Do, fe hwyliaist i wledydd estron
Ac ymladd yn erbyn y Saeson
A’th enw a gododd mewn bri, o lin tywysogion.
Arweiniaist dy gwmni o Gymry i’r gâd
Mewn aml i frwydr, mewn llawer i wlad
Ond dy fwriad a’th nod oedd dychwelyd
I’th dir etifeddol a’i hachub
A chipio dy genedl nol o grafangau anghof
Owain Lawgoch
A’th lwybr yn galw fe gyrchaist y don
A’th gwmni o ddynion, yn ddewrion gerbron
Ond cyn cyrraedd y traeth addunedig
Fe g’raeddodd y newydd rhwystredig
Yn dy alw di eto i’r gâd mewn gwlad ymhell o Gymru Owain Lawgoch, Owain Lawgoch.
Penodwyd dy lofrudd gan frenin y Sais
I derfynu dy fywyd trwy dwyll a thrwy drais
Do, fe’th laddwyd â llafn yn dy gefn
A lladdwyd ein gobaith drachefn,
Mewn eiliad fe gipiwyd trwy frad ein mab darogan
Aeth saith canrif heibio ar wyneb y byd
Ac yntau yn dyst ein bod yma o hyd
Ac fe gofiwn dy achos a’th aberth
Ac fe godwn mewn uniad a nerth
A nawr rydym d’angen di, Owain,
I dynnu cleddyf gwrthryfel o’i wain
Ar d’ysbryd gwladgarol fe alwn, cyd-floeddiwn yn groch Owain Lawgoch, Owain Lawgoch, Owain Lawgoch.
Seven centuries went by since you came to this world,
And your destiny was to travel far and wide
Yes, you sailed to foreign lands
And fought against the English
And your name became famous, from the lineage of princes
You led your company of Welshmen to arms
In many a battle, in many a country
But your intent was to return
To your rightful land and to save it
And to take back your nation from the claws of a forgotten past,
Owain Red Hand
With your path calling to you, you set sail
With your brave band of warriors at your side
But before reaching that fateful shore
There came the frustrating news
Calling you back to the battlefield in a far away land
Owain Red Hand, Owain Red Hand
Your killer was appointed by the English king
To bring your life to an end in a deceitful and violent way
Yes, you were killed with a blade in your back
And thus our hope was also killed
In one traitorous moment our son of destiny was taken
Seven centuries passed on this earth
And it’s witness to the fact that we’re still here
So we’ll remember your cause and your sacrifice
And we’ll rise up in unity and strength
And now, Owain, we need you
To unsheathe your rebellious sword
On your patriotic spirit we call, let’s loudly cry in unison
Owain Red Hand, Owain Red Hand, Owain Red Hand.