top of page
Er Fy Ngwaethaf / Despite Myself
Cerddoriaeth / Music - GBRh
Geiriau/Lyrics - Elis Dafydd
Trefniant / Arrangement - GBRh, TR, AWH, DRhH

Ambell i enw, ambell i gân, 
ambell i ffag sydd yn chwilio am dân, 
ambell i gysgod yn llygad hen ffrind, 
ambell un dw i’m di’i charu tan ei bod hi ’di mynd. 
 
Ambell belydryn sy’n boeth ar fy ngwar, 
ambell un o’r hen wynebau yn y drych uwchben y bar. 
Ambell i bnawn mewn maes parcio gwag 
efo merch o Frynrefail sydd am ddianc i Prâg. 
 
Ambell i foi yn y gornel ei hun 
sydd yn yfed i iechyd bob bore dydd Llun. 
Tra bydd y rhain, mi fydda’ i’n slaf 
i bob un o’r gwenoliaid rhwng rŵan a’r haf. 

A few names, a few songs,

a few fags that are looking for a flame,

a few shadows in the eyes of an old friend,

a few that I haven’t loved until they have gone.

 

A few sunrays that are hot on the back of my neck,

a few of the old faces in the mirror above the bar.

A few afternoons in empty carparks

with a girl from Brynrefail that’s escaping to Prague

 

A few old lads in the corner by themselves

who drink to health every Monday morning.

Whilst these things are there, I will be a slave

to every swallow between now and Summer.

bottom of page