
CANWR GWERIN CYMRAEG
WELSH FOLK SINGER
Tri Thrawiad / Three Strikes
Alaw/Melody - Tradd./Trad.
Geiriau/Words - Tradd./Trad. Pennill olaf/Last verse: John Howell ‘Ioan ap Hywel’ (1774-1830)
Pan ddel telyn Harri i bentre Llanllyfni
wel yna ceir ganu yn heini mewn hedd
rhwng chwech o gantorion y bydd yn ymryson
gwŷr Arfon da wiwlon diwaeledd
mi godwn y Gader ac ywen Llangywer
I fynwent Llanaber heb neb ond myfi
mi chwythwn dre ´Mwythig ar unwaith i’r ‘Renig
ond siarad ychydig a Chadi
Ni wna i mo’m trigfa yn agos i’r Wyddfa
ar un o’i gorsedda ni myna mo’r bod
lle oeraidd aneiri a’r gwynt yn sgyrnygu
a’r glaw arni’n dyrnu bob diwrnod
pe roddwyd teyrnasioedd holl Asia´i hynysoedd
llywodraeth ei thiroedd a´i moroedd i mi
gwrthodai nw’n ddedwydd yn frynia´ ac yn fronydd
a´r maesydd yn unswydd am Nansi
Llanelli, Llangollan, a Chaerwys a Chorwan
Llanelwy, Llanelian, Tre´r Gloman a´r Glyn
Y Bala’r Drenewydd a Thywyn Meirionydd
Trawsfynydd, Llanefydd a Nefyn
os roddir gofyniad pwy luniodd y ganiad
mab ifanc llon difrad fy mwriad wyf fi
John Hywel hwy’m Galwan, eleni mae ‘nhrigfan
wrth geulan glyn gwiwlan Glangwili
When Harry’s harp will come to Llanllyfni
well that’s when we can sing spiritly and peacefully
between six singers that will be competing against each other -
the men of Arfon – Good, worthy and not in ill health
I’ll raise up Cader Idris and the Yew of Llangywer
to the cemetery of Llanaber with no one but myself
I’ll blow Shrewsbury town at once to Arenig
only to speak a Little with Cadi
I won’t make my dwelling close to yr Wyddfa (Snowdon)
on any of its knolls I wish not to be
an immeasurably cold place, the wind grinding
and the rain hammering on it each day
if all the dominions of Asia and its islands were given to me -
the government over its lands and seas,
I’d happily refuse them, the hills and the slopes
and the fields solely for Nancy
Llanelli, Llangollen and Caerwys and Corwen
Llanelwy, Llanelian, Tre’r G´lomen and the Glyn
Y Bala and Y Drenewydd and Tywyn Meirionnydd,
Trawsfynydd, Llanefydd and Nefyn
If an enquiry is made as to who made this song
a young joyful lad with an honest intent am I
John Hywel is what they call me, this year my dwelling
is by the bank of the fair glen of Glangwili