CANWR GWERIN CYMRAEG
WELSH FOLK SINGER
Canu'n Iach I Arfon / To Bid Farewell to Arfon
Alaw/Melody - Addasiad ar tradd/Variation on trad
Geiriau/Words - Llew Tegid (1851-1928)
Doed holl drigolion moethus mwyn
Sy’n byw ar swyn danteithion
I ganu clod dinasoedd cain
A sain y tannau tynion
Ni ddeuaf byth o’m bwthyn bach
I ganu’n iach i Arfon
Fe ddywed rhai fod gwledydd pell
Yn well na Chymru dirion
A deuant gyda gwawd a gwên
I geisio denu dynion
Arosaf eto ronyn bach
Cyn canu’n iach i Arfon
Mil gwell yw’r awyr iach gen i
A bywyd diofalon
Ym myd y grug a’r eithin mân
A chân yr adar gwylltion
A thrigo gyda’m teulu bach
Na chanu’n iach i Arfon.
Come all ye gentle and sumptuous citizens
That enjoy the sweet things,
To sing the praises of fair cities
And the sound of the tight strings,
I’ll never leave my little cottage
And bid farewell to Arfon
There’s some that say that the far-away lands
Are better than fair Wales
And they come with false smiles
To try to lure men
I shall stay yet a while
Before bidding farewell to Arfon
A thousand times better to me is the fresh air
And a life without worry,
In a world of heather and gorse
And the singing of wild birds
And to dwell with my little family
Than to bid farewell to Arfon.