top of page
Ben Rhys
Alaw/Melody - GBRh
Geiriau/Words - Sian Arianwen Harris & GBRh
​

Ben Rhys ydw i ac rwy’n löwr o ddyn

Ac yn Gymro glân o dan fy nghragen fudr.

Un o forgryg y pwll sydd ynghanol fy nghwm

Ac rwy’n naddu yn y fagddu byth a beunydd.

Ie, rwy’n naddu hyd fy nyddiau i gael bara ar y bwrdd

Yn llafurio am oriau dan y lloriau yn y ffwrn,

Ie, rwy’n gweithio dan galedwch

Ac yn chwysu’n y tywyllwch

Ond i ennill man geiniogau,

Gwneud dyletswydd tad a gŵr.

 

Un gwawr, ganol haf, rwy'n disgyn i’r pwll

A’r lleithder yn y muriau’n cau amdanaf.

O dan brennau brau a’r gannwyll yn noeth

Rwy’n gadael golau dydd am y tro olaf.

Ie, rwy’n gadael golau dydd yn ddiniwed i fy ffawd

A’r diffyg aer yn llethol ac yn gwasgu ar fy nghnawd,

Ie, rwy’n mygu yn y nwyon

Ym myddarol sŵn morthwylion

Curiad caib a churiad calon yn cyflymu yn fy mron.

 

Ben Rhys ydw i gynt yn löwr o ddyn

Ac yn Gymro glân o dan fy nghragen fudr.

Yn ŵr, tad a brawd, un o bedwar mewn bedd,

A’r bedd yn un o’r ugain sydd ar agor.

Ie, mae’r bedd yn un o’r ugain sydd ar agor yn fy nghwm,

A’r gweddwon yn galaru gyda’r plant yn wylo’n drwm

Dan ormes draed y meistri

Ond i lenwi eu pocedi

Sydd yn dianc rhag cyfiawnder; anghyfiawnder i’r dydd hwn

My name is Ben Rhys, a man and a collier

And a pure Welshman under my dirty shell,

One of the ants of the pit in the centre of my valley

And I mine in the darkness day in day out

Yes I mine all my days to put bread on the table,

Labouring for hours in this underground furnace

Yes, I work under hardship

And sweat in the darkness

Just to earn mere pennies

Doing my duty as a father and husband

 

One mid-summer’s dawn I descend into the pit

And the humid walls close in about me

Under weak and fragile beams and my candle’s naked flame

I leave the light of day for the last time

Yes I leave the light of day unconscious of my fate,

The lack of air overwhelming and pressing on my flesh,

Yes, I’m choking from the gasses

Amongst the deafening beating of hammers,

The beating of picks, and my heartbeat quickening in my breast.

 

My name is Ben Rhys, I was a man and a collier

And a pure Welshman under my dirty shell,

A man, father and brother, one of four in a grave,

And the grave is one of twenty that are open,

Yes the grave is one of twenty that are open in my valley

And the widows are lamenting and the children are weeping, Repressed under the master’s feet ,

Masters who only want to fill their pockets,

And that flee from justice, an injustice to this day.

bottom of page